BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Pecyn Gwybodaeth Cymorth Ynni i Fusnesau

Adnoddau a chyngor arbenigol i helpu gweithgynhyrchwyr sy’n BBaChau sydd wedi'u lleoli yn y DU i leihau eu defnydd o ynni a chynyddu proffidioldeb.

Mae'r Pecyn Gwybodaeth Cymorth Ynni i Fusnesau yn rhoi mynediad hawdd i wneuthurwyr at arbenigwyr ac offer, gan eich helpu i wneud gostyngiadau sylweddol i'ch defnydd o ynni mewn cyfnodau amser byr.

Mae'r gefnogaeth yn cynnwys meysydd fel:

  • Mewnwelediadau sy'n cael eu gyrru gan ddata i'ch defnydd o ynni
  • Help i amlygu gwelliannau cynllunio cynhyrchu
  • Amlygu mesurau arbed costau
  • Darganfod cyfleoedd i leihau eich ôl troed carbon a gweithio tuag at Sero Net
  • Arbenigedd gan dîm o arbenigwyr

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Business Energy Aid Toolkit - GOV.UK (www.gov.uk)

Rydyn ni'n gwybod bod costau cynyddol yn her fawr i fusnesau ledled Cymru ar hyn o bryd. Dyna pam rydyn ni'n gweithio gyda'n partneriaid i ddod â’r adnoddau ymarferol a'r gefnogaeth sydd eu hangen i addasu a llywio cost gynyddol gwneud busnes – i gyd mewn un man. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cost Gwneud Busnes | Drupal (gov.wales) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.