BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Pecyn o gymorth wedi'i gyhoeddi i roi hwb i recriwtio athrawon sy’n siarad Cymraeg

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cyhoeddi bwrsari a grant newydd i gynyddu nifer yr athrawon sy'n gallu siarad Cymraeg.

Bydd bwrsari newydd gwerth £5,000 ar gael i athrawon a enillodd Statws Athro Cymwysedig o fis Awst 2020 ymlaen, ac sydd wedi cwblhau tair blynedd o ddysgu'r Gymraeg neu drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd y bwrsari ar gael yn y lle cyntaf tan Hydref 2028 i asesu a yw’n llwyddo i annog athrawon i ymuno â'r proffesiwn ac i aros ynddo.

Ynghyd â hyn, mae ail rownd o'r grant adeiladu capasiti'r gweithlu cyfrwng Cymraeg wedi agor, gyda chyfanswm o £800,000 ar gael. Mae'r cynllun hwn yn darparu grantiau bach i ysgolion fel y gallant ddatblygu ffyrdd arloesol o ddatrys yr heriau recriwtio sy'n eu hwynebu.

Mae'r grant hwn yn rhoi rhyddid i ysgolion deilwra cynlluniau i anghenion eu bro, eu gweithlu a'u demograffeg eu hunain.
Mae cynyddu nifer yr athrawon sy'n gallu addysgu’r Gymraeg a thrwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol er mwyn gwireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac i gyflawni uchelgais y Papur Gwyn ar gyfer y Bil Addysg Gymraeg.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Pecyn o gymorth wedi'i gyhoeddi i roi hwb i recriwtio athrawon sy’n siarad Cymraeg | LLYW.CYMRU

Mae Helo Blod yn wasanaeth cyflym a chyfeillgar sydd yma i’ch  cynghori  ar sut i ddefnyddio ychydig (neu lawer) o Gymraeg yn eich busnes. Ac mae’r cwbl am ddim! I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Croeso i Helo Blod | Helo Blod (gov.wales)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.