BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Pitchfest: cynnig parodrwydd am fuddsoddiad ar gyfer BBaChau y DU

Mae Pitchfest yn cefnogi BBaChau arloesol ac uchelgeisiol yn y DU i fod yn barod am fuddsoddiad a datblygu eu cynigion i fuddsoddwyr er mwyn codi arian.

Bydd Pitchfest, sy’n gynnig a gyllidir, yn cefnogi BBaChau arloesol i gyflymu eu cynnydd tuag at ehangu.
 
Dyma’r dyddiadau i wneud cais yng Nghymru:

  • Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 5pm 1 Ebrill 2021
  • Hysbysiad o ganlyniadau ceisiadau: 14 Ebrill 2021
  • Sesiwn baratoi: Bydd Hyrwyddwr Pitchfest yn trefnu dyddiad 
  • Diwrnod hyfforddi 1: 6 Mai 2021
  • Diwrnod hyfforddi 2: 20 Mai 2021
  • Sesiwn buddsoddwyr: 10 Mehefin 2021

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan  Innovate UK Edge


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.