BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Prosiectau twristiaeth yng Nghymru yn ennill cyfran o £5 miliwn er mwyn cael y pethau pwysig yn iawn ar gyfer ymwelwyr

father and daughter

Heddiw (3 Awst 2023) cadarnhaodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden, bod prosiectau twristiaeth ledled Cymru wedi ennill cyfran o gronfa gwerth £5 miliwn Llywodraeth Cymru, sef Y Pethau Pwysig, er mwyn cynorthwyo i ddarparu profiad gwyliau o’r radd flaenaf.

Mae 29 prosiect seilwaith twristiaeth yng ngogledd, canolbarth, de-orllewin a de-ddwyrain Cymru wedi cael buddsoddiad gan y gronfa, sy’n helpu i gyflawni gwelliannau seilwaith twristiaeth ar raddfa fach.

Mae’r gronfa, sy’n agored i awdurdodau lleol ac awdurdodau parciau cenedlaethol, hefyd yn cefnogi prosiectau sy’n gwella hygyrchedd a phrosiectau sy’n gwneud eu cyrchfannau yn fwy amgylcheddol gynaliadwy.

2023 yw Blwyddyn Llwybrau Cymru sy'n rhoi cyfle i'r sector twristiaeth arddangos atyniadau, tirweddau a’r arfordir drwy ffyrdd a llwybrau. Mae’r prosiectau a gymeradwywyd yn dangos sut mae awdurdodau lleol a pharciau cenedlaethol wedi ystyried y profiad cyfan i ymwelwyr a'r seilwaith hanfodol sy'n gwneud profiad llwybr yn gyflawn, o lwybrau, i barcio i sicrhau bod cyfleusterau'n hygyrch i bawb. 

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol Prosiectau twristiaeth yng Nghymru yn ennill cyfran o £5 miliwn er mwyn cael y pethau pwysig yn iawn ar gyfer ymwelwyr | LLYW.CYMRU 

Gall bod yn berchen ar a rhedeg eich busnes twristiaeth eich hun fod yn werth chweil. P'un a ydych chi'n ystyried dechrau busnes twristiaeth newydd, eisoes wedi cymryd y camau cyntaf neu'n dymuno tyfu eich busnes presennol, ewch i Twristiaeth | Drupal (gov.wales) i ddarganfod mwy. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.