BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

£10 miliwn ychwanegol i helpu i ddiogelu swyddi a’r bobl sy’n cael anawsterau ariannol

Mae Llywodraeth Cymru yn galw ar gyflogwyr i ddefnyddio cyllid ychwanegol Llywodraeth Cymru i ddiogelu gweithwyr sydd mewn perygl o fod yn anghymwys ar gyfer cynlluniau cymorth cyflogau Llywodraeth y DU.

Gyda’r cyfnod atal byr yn dechrau ar draws Cymru heno, mae Llywodraeth Cymru yn awr yn camu i’r adwy i ychwanegu £5 miliwn at y gronfa ddewisol o £20 miliwn a ddarperir i awdurdodau lleol i gefnogi busnesau i gadw’r gweithwyr sydd mewn perygl o beidio â bod yn gymwys am gymorth. Mae’r gronfa hon ar ben y pecyn grantiau o £300 miliwn a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf.

Yn ogystal, bydd £5 miliwn ychwanegol hefyd yn cael ei ddarparu i’r Gronfa Cymorth Dewisol sy’n rhoi grantiau i bobl sydd angen cymorth ar frys yn ystod yr argyfwng, gan gynnwys pobl sy’n aros am daliadau budd-daliadau a’r bobl mewn gwaith sy’n wynebu caledi.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Llyw.Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.