BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

£26 miliwn i helpu elusennau bach yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd miloedd o elusennau bach yn y sector manwerthu, hamdden a lletygarwch yn cael grant cymorth busnes gwerth £10,000 i’w helpu i ymateb i heriau ariannol COVID-19.

Bydd y pecyn newydd hwn, gwerth £26 miliwn yn cefnogi 2,600 o eiddo ychwanegol gyda gwerth trethadwy o £12,000 neu lai.

Mae hyn yn cynnwys:

  • siopau elusen
  • eiddo chwaraeon
  • canolfannau cymunedol

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.

Bydd mwy o fanylion ar sut i wneud cais ar wefan Busnes Cymru yn fuan.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.