BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

£31miliwn i drawsnewid ynni adnewyddadwy

Bydd prosiect llanw pwysig oddi ar Ynys Môn yn elwa ar £31 miliwn sy’n debygol o fod y grant mawr olaf gan raglen ariannu ranbarthol yr UE.

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James  wedi cadarnhau y bydd arian yn cael ei roi i brosiect seilwaith Morlais Menter Môn.

Nod datblygiad Seilwaith Morlais yw datblygu technoleg cynhyrchu ynni’r llanw ymhellach drwy gysylltiad â’r grid.

Mae Grŵp Cynghori yn cael ei sefydlu i oruchwylio'r gwaith o ddatblygu a chyflawni'r gwaith, gydag aelodau sy'n cynnwys cynrychiolwyr o Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru, JNCC, cyrff anllywodraethol amgylcheddol, Cyngor Sir Ynys Môn, a datblygwyr y ffrwd lanw.  Mae'r partneriaid cyflawni a ragwelir yn cynnwys Prifysgol Bangor, Prifysgol Abertawe a SMRU Consulting, gan gryfhau'r cysylltiadau rhwng y sectorau ymchwil, ynni ac arloesi.

Am ragor o wybodaeth, ewch i £31miliwn i drawsnewid ynni adnewyddadwy | LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.