BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhaglen Adfywio Ymddiriedolaethau

Mae’r Comisiwn Elusennau wedi cyhoeddi bod y rhaglen ‘Adfywio Ymddiriedolaethau’ wedi rhyddhau £1 miliwn i gynorthwyo achosion elusennol yn uniongyrchol ledled Cymru.

Mae rhaglen Adfywio Ymddiriedolaethau yn helpu elusennau i oresgyn heriau sy'n llesteirio eu gallu i ddatblygu'r achosion elusennol yn effeithiol y maent yn eu heirioli a chynorthwyo elusennau segur i ryddhau eu hasedau elusennol. Gwneir hyn trwy eu helpu i ddirwyn asedau i ben neu drosglwyddo asedau i elusen arall sydd â dibenion tebyg.

Caiff y rhaglen yng Nghymru ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru sydd wedi buddsoddi £211,000 i gefnogi'r Comisiwn yn ei ymdrechion i sicrhau bod asedau elusennol yn cael eu defnyddio mor effeithiol â phosibl.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Charity Commission programme reaches new milestone as £1 million is delivered to Welsh communities - GOV.UK (www.gov.uk) ac Adfywio ymddiriedolaethau yng Nghymru - Community Foundation Wales


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.