Mae Banc Busnes Prydain yn cyhoeddi'r rhaglen Ariannu Gymunedol ENABLE i gynyddu'r cyllid sydd ar gael i fenthycwyr y sector effaith gymdeithasol a'r busnesau llai y maent yn eu gwasanaethu mewn cymunedau lleol ledled gwledydd a rhanbarthau'r DU. Mae'r fenter wedi'i hanelu'n bennaf at Sefydliadau Cyllid Datblygu Cymunedol (SCDC).
Mae SCDC yn fenthycwyr bach, rhanbarthol yn y sector effaith gymdeithasol sy'n darparu cyllid a chymorth dyled i fusnesau sydd ddim yn cael eu gwasanaethu'n ddigonol ac sy’n gallu ei chael hi'n anodd cael gafael ar gyllid gan fenthycwyr prif ffrwd. Un o brif amcanion y rhaglen yw helpu i ddatblygu'r sector yn ei gyfanrwydd fel y gall llawer mwy o fusnesau o'r fath gael mynediad at y cyllid sydd ei angen arnynt.
Bydd y rhaglen ariannu’n cael ei chyflwyno mewn dau gam. Yn y cam cyntaf, bydd yr Adran Busnes a Masnach yn darparu 100% o gyllid y rhaglen drwy Fanc Busnes Prydain, a fydd yn galluogi SCDC i sicrhau bod mwy o gyllid ar gael i fusnesau llai.
Yn yr ail gam, bydd Banc Busnes Prydain yn dod o hyd i gyllid ychwanegol gan fuddsoddwyr yn y sector preifat, gan drosoli'r cyllid a gefnogir gan y llywodraeth i gynyddu faint o gyllid cyfanwerthol sydd ar gael o dan y rhaglen.
Cliciwch ar y doleni ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: