BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhaglen Arloesi Busnes Byd-eang

Helpu busnesau uchelgeisiol i gydweithio ac ehangu mewn marchnadoedd newydd, gan gyflymu twf busnes.

Cefnogir hyd at 15 o fusnesau arloesol twf uchel yn ystod pob Rhaglen Arloesi Busnes Byd-eang (GBIP). Maent yn archwilio ac yn manteisio ar y cyfleoedd cydweithio, twf ac arloesedd sy'n bodoli mewn marchnad fusnes benodol o amgylch thema benodol, o amaeth-dechnoleg i ddeallusrwydd artiffisial. Mae'r GBIP yn darparu gwybodaeth fanwl am y farchnad, cyflwyniadau a mewnwelediad diwylliannol y byddai BBaChau yn ei chael hi’n anodd eu cael eu hunain.

Mae gan GBIP dri cham: 

  • Paratoi ar gyfer y farchnad
  • Ymweld â'r farchnad
  • Manteisio ar y cyfle

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Global Business Innovation Programme | Innovate UK EDGE (ukri.org)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.