Bwriad Creo, a ffurfiwyd mewn partneriaeth â Motability Operations, yw rhoi hwb i Sefydlwyr anabl a niwroamrywiol ac entrepreneuriaid sy'n arloesi ym maes anabledd a dod â nhw i gysylltiad â’i gilydd, yn ogystal â rhoi'r wybodaeth, y cysylltiadau a'r offer sydd eu hangen arnynt er mwyn ehangu eu busnesau newydd.
Rhaglen ar gyfer busnesau newydd ym maes technoleg cyn y cam cyllid cychwynnol hyd at rai sydd cyn y cam cyllid cyfres A, ac sydd wedi'u lleoli yn y DU, yw rhaglen Creo. Rhaid i o leiaf un o sefydlwyr y busnes hunanuniaethu fel unigolyn anabl neu niwroamrywiol, neu mae'n rhaid i'r cwmni fod yn arloesi ym maes anabledd neu niwroamrywiaeth.
Mae'n cynnwys gweithdai a chynnwys sy’n cael eu harwain gan arbenigwyr yn y diwydiant, cefnogaeth gan gymheiriaid, a sesiynau hyfforddi. Bydd y rhaglen yn rhedeg o fis Medi hyd at fis Rhagfyr 2024.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 19 Awst 2024.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Creo | Tech Nation