BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhaglen Disney Imagine UK Shorts Incubator

Gan ganolbwyntio ar adeiladu diwydiant ffilm a theledu mwy cynhwysol, mae Disney a The National Film &Television School yn chwilio am chwe thîm o awduron a chyfarwyddwyr profiadol gyda safbwyntiau gwahanol ac amrywiol, gydag o leiaf un person yn y tîm o gefndir sy’n cael eu tangynrychioli, i wneud ffilm fer fel rhan o raglen Disney Imagine UK Shorts Incubator.

Mae Disney Imagine UK yn gyfle i wneud ffilm fer gyda chefnogaeth greadigol gan swyddogion gweithredol Disney a fydd â photensial i'w dangos am y tro cyntaf ar lwyfannau Disney, ymddangos mewn digwyddiad arddangos, a chael ei chyflwyno i wyliau rhyngwladol. 

Bydd pob tîm yn derbyn cyllideb gynhyrchu o £25,000 gydag offer a chyfleusterau’n cael eu darparu am ddim gan NFTS. Hefyd, bydd cyfranogwyr yn elwa ar raglen hyfforddi sy'n cynnwys seminarau a mentora gyda'r bwriad o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau ar gyfer pob cefndir sy’n cael eu tangynrychioli o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac mewn perthynas ag anghydraddoldebau cymdeithasol trwy roi mynediad at gefnogaeth a mentora. 

Mae hwn yn gyfle i wneuthurwyr ffilmiau unigryw a gwreiddiol sy'n dod i'r amlwg adeiladu ar eu cryfderau a chynyddu graddfa ac uchelgais eu gwaith.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 6 Tachwedd 2022.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol https://nfts.co.uk/disney-imagine-uk-shorts-incubator
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.