BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhaglen Ffasiwn Gylchol UKRI: arddangoswr ailgylchu a didoli

Mae Innovate UK wedi lansio cyfle cyllido newydd gwerth £4 miliwn i fusnesau'r DU gefnogi prosiect arddangos nodedig sy'n mynd i'r afael â heriau ailgylchu a didoli diwydiant ffasiwn a thecstilau'r DU. 

Nod y gystadleuaeth hon yw ariannu arddangoswr gweithgareddau ymchwil a datblygu. Bydd hyn yn dangos technolegau, gwasanaethau, prosesau a modelau busnes newydd sy'n gallu mynd i'r afael â'r heriau ailgylchu a didoli, fel rhan o sector ffasiwn a thecstilau'r DU a'u cadwyni cyflenwi uniongyrchol.

Rhaid i'ch prosiect ganolbwyntio ar ffabrigau cymysg ac anogir ceisiadau i ganolbwyntio ar un neu fwy o'r deunyddiau canlynol:

  • gwlân
  • cotwm
  • polyester

Bydd y gystadleuaeth yn cau am 11am ar 11 Ionawr 2023.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Competition overview - UKRI Circular fashion programme: recycling and sorting demonstrator - Innovation Funding Service (apply-for-innovation-funding.service.gov.uk)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.