BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhaglen Funding Futures

hands

Y cymunedau ymylol a lleiafrifol sydd wedi’u taro waethaf gan effeithiau’r pandemig a’r argyfwng costau byw, ac mae wedi cael effaith negyddol ar fywoliaeth nifer o bobl.

Bydd rhaglen Funding Futures yn defnyddio grym ieuenctid i ddod o hyd i atebion ar gyfer y rhai sydd wedi'u gwthio i'r cyrion gan y system ariannol. Bydd y cymorth yn rhoi’r grym i bobl ifanc wneud eu cymunedau yn llefydd tecach i fyw ynddynt.

Fel Enillydd Dyfarniad rhaglen Funding Futures, byddwch yn gallu cael cymorth wedi’i deilwra gan gynnwys:

  • cymorth i helpu i gryfhau eich sgiliau llythrennedd ariannol a helpu i wella gwytnwch ariannol eich menter gymdeithasol
  • cymorth gan Reolwr Cymorth, ymgynghoriaeth pro-bono, gweithdai i uwchsgilio gyda’ch cyfoedion, a chyngor ac arweiniad arbenigol
  • cyfleoedd cyson i gysylltu â chyd-entrepreneuriaid cymdeithasol sy'n ceisio lleihau anghydraddoldebau ariannol er mwyn rhannu a dysgu o'u profiadau

Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer rhaglen Funding Futures, rhaid i chi fod:

  • rhwng 16 a 30 mlwydd oed
  • wedi eich lleoli yn y Deyrnas Unedig
  • yn gweithredu yn y sector cynhwysiant ariannol

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i wneud cais am Ddyfarniad er mwyn dechrau neu ddatblygu eich menter gymdeithasol: Funding Futures Programme | UnLtd


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.