BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhaglen o fuddsoddi ffyrdd i’r dyfodol

Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters wedi pennu’r cyfeiriad ar gyfer dyfodol trafnidiaeth yng Nghymru mewn datganiad sy'n rhoi newid hinsawdd wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau. Dywedodd y Dirprwy Weinidog wrth y Senedd

“Fyddwn ni ddim yn cyrraedd Sero Net os na fyddwn ni’n stopio gwneud yr un peth drosodd a throsodd.”

a rhoddodd wybod am ganfyddiadau rhai dogfennau allweddol sy'n llywio dyfodol adeiladu ffyrdd yng Nghymru.

Mae'r dogfennau newydd yn cynnwys canfyddiadau Panel yr Adolygiad Ffyrdd – grŵp o arbenigwyr annibynnol sydd â'r dasg o asesu dros 50 o brosiectau adeiladu ffyrdd – a Chynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru.

Gyda'i gilydd, mae'r dogfennau hyn yn dangos statws 59 o brosiectau i gyd – sy’n cynnwys rhai sy'n cael eu gyrru yn eu blaen, rhai nad ydynt yn cael eu symud ymlaen ar hyn o bryd, a rhai sy'n cael eu disodli gan waith newydd.

O hyn ymlaen, bydd Llywodraeth Cymru ond yn ystyried buddsoddiad ffyrdd yn y dyfodol ar gyfer prosiectau sy'n:

  • lleihau allyriadau carbon a chefnogi newid o ran trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio
  • gwella diogelwch drwy newid ar raddfa fach
  • helpu Llywodraeth Cymru i addasu i effeithiau newid yn yr hinsawdd
  • darparu cysylltiadau â swyddi ac ardaloedd o weithgarwch economaidd mewn ffordd sy'n gwneud y defnydd mwyaf o drafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio

Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.