BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhaglen Sbarduno Cynaliadwyedd Amazon - Cynnyrch Defnyddwyr

digital rocket to depict business start up - accelerator

Oes gennych chi fusnes newydd sbon sy'n datblygu cynnyrch cynaliadwy ac arloesol i ddefnyddwyr?

Am gyfle i gael grantiau arian parod, gwnewch gais i ymuno â Rhaglen Sbarduno Cynaliadwyedd Amazon, sy’n cael ei chyflwyno am y trydydd tro. Mae'r rhaglen sbarduno yn rhaglen ddeg wythnos bwrpasol, wedi'i chynllunio i gefnogi sylfaenwyr busnesau eco-ymwybodol newydd i ddatblygu eu cynnyrch a thyfu eu busnes.

Mae'r rhaglen yn un hybrid, ac yn cynnwys sesiynau rhithwir a digwyddiadau wyneb yn wyneb; gyda thair wythnos allweddol wyneb yn wyneb mewn canolfannau cynaliadwyedd allweddol ledled Ewrop - Berlin, Amsterdam a Llundain.

31 Gorffennaf 2024 yw’r dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau a bydd y rhaglen yn dechrau ar 16 Medi 2024.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Amazon Sustainability Accelerator: Maximise your Impact


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.