BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhaglen Small and Mighty Enterprise

Mature businesswoman working from home

Ydych chi'n unig fasnachwr neu'n berchennog microfusnes sydd eisiau rhoi hwb sylweddol i’ch twf?

Mae’r cofrestru bellach ar agor ar gyfer rhifyn mis Medi o raglen Small and Mighty Enterprise gan Small Business Britain.

Nod y rhaglen chwe wythnos hon yw rhoi hwb sylweddol i unig fasnachwyr a microfusnesau, a helpu busnesau bach i dyfu gydag arweiniad a mentora arbenigol.

Daw’r cwrs i ben gyda chynllun twf i gefnogi’r flwyddyn nesaf o gyfleoedd busnes, a chynhelir digwyddiad wyneb yn wyneb hefyd i ddathlu cyflawniadau’r cyfranogwyr a nodau’r rhaglen.

Mae’r rhaglen yn rhad ac am ddim a bydd yn cael ei chyflwyno’n gyfan gwbl ar-lein, gan ganiatáu mynediad o unrhyw le yn y DU, â’r dysgu hyblyg yn sicrhau bod cyfle i bawb.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Small Business Britain | Champion. Inspire. Accelerate.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.