BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhagor o waith i ddechrau heddiw ar Bont Menai

Deputy Minister for Climate Change, Lee Waters

Bydd y gwaith yn dechrau heddiw (dydd Llun 4ydd Medi 2023) i atgyweirio Pont Menai i sicrhau ei bod yn cael ei hadfer yn barhaol mewn pryd ar gyfer ei phen-blwydd yn 200 oed.

Bydd ail gam y gwaith gan UK Highways A55 Limited yn gosod crogwyr parhaol newydd, yn dilyn cyfnod o ddatblygu a phrofi trylwyr, yn ogystal â gwaith paentio helaeth i du allan y bont.

Anogir modurwyr i gynllunio ymlaen llaw, fodd bynnag, ni fydd y rhaglen waith yn golygu cau'r bont yn llawn a bydd dulliau rheoli traffig i leihau unrhyw darfu ar drigolion lleol.

Bydd mesurau rheoli traffig ar gyfer cau un lôn ar waith o 07:00 ddydd Llun i 15:30 ddydd Gwener heb unrhyw reolaeth traffig ar y penwythnosau a gwyliau banc. Mae hyn er mwyn gwneud y mwyaf o amser sifftiau drwy beidio â gorfod symud offer ar ôl pob shifft.

Bydd goleuadau traffig tra bod mesurau rheoli traffig ar waith. Bydd y goleuadau traffig yn cael eu rheoli â llaw yn ystod cyfnodau brig yn y bore a’r prynhawn i alluogi llif traffig a lleihau tarfu cyn belled ag y bo modd.

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y ddolen ganlynol Rhagor o waith i ddechrau heddiw ar Bont Menai | LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.