BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rheoli Cemegion - Canllawiau'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

Mae'r DU wedi ymadael â'r UE ac mae rhai rheoliadau wedi newid er mwyn sicrhau bod cemegion yn cael eu rheoli'n effeithiol ac yn ddiogel gan fod y DU wedi sefydlu cyfundrefnau rheoleiddio annibynnol.
 
Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi diweddaru ei ganllawiau ar gyfer y canlynol:

  • Mae canllawiau bywleiddiaid yn cynnwys manylion y gofynion BPR Prydain ar gyfer cynhyrchion bywleiddiaid ym Mhrydain.
  • Mae tudalen Brexit bywleiddiaid yn amlygu'r prif wahaniaethau rhwng BPR yr UE a BPR Prydain, yn ogystal â'r manylion sydd heb newid.
  • Taflenni ffeithiau gyda gwybodaeth fanwl i fusnesau sydd am gael mynediad at farchnad Prydain ar ôl 31 Rhagfyr 2020, neu sydd am barhau i gael y mynediad hwnnw.
  • Gweler y rhestr o gynhyrchion bywleiddiaid awdurdodedig Prydain sy'n rhoi manylion cynhyrchion bywleiddiaid y gellir eu cyflenwi ym Mhrydain.
  • Mae cemegion a roddir ar y farchnad ym Mhrydain (Cymru, Lloegr a'r Alban) yn cael eu rheoleiddio gan Reoliad Dosbarthu, Labelu a Phecynnu Prydain, sef CLP Prydain. Ewch i wefan CLP sy'n cynnwys canllawiau ar sut i gydymffurfio â Rheoliad CLP Prydain.
  • Mae Rheoliad Allforio a Mewnforio Cemegion Peryglus Prydain (PIC Prydain) bellach yn gymwys yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Mae'n ofynnol i fusnesau sy'n allforio cemegion ar y rhestr PIC o Brydain, neu sy'n mewnforio cemegion o'r fath i Brydain, gydymffurfio â'r gyfundrefn PIC newydd. Ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i gael rhagor o wybodaeth am y rheoliadau PIC.
  • Mae cyfundrefn rheoleiddio plaladdwyr annibynnol bellach ar waith ym Mhrydain (Cymru, Lloegr a'r Alban). Nid yw penderfyniadau newydd a wneir o dan gyfundrefn yr UE yn berthnasol ym Mhrydain. Mae cyfundrefn Cynhyrchion Diogelu Planhigion Prydain (PPP) yn gwneud penderfyniadau annibynnol ar sylweddau gweithredol ac uchafswm lefel gweddillion.  Mae gan wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ganllawiau ar y newidiadau i ddeddfwriaeth a sut y gallai Brexit effeithio ar reoleiddio PPP.
  • Daeth Rheoliad REACH yr UE i gyfraith y DU ar 1 Ionawr 2021. Gelwir hyn yn UK REACH.

Am ragor o wybodaeth am sut i baratoi eich busnes ar gyfer y rheolau newydd rhwng y DU a’r UE, ewch i Borth Cyfnod Pontio'r UE Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.