BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhwydwaith Dyfodol Newydd

Person working in a garden

Mae’r Rhwydwaith Dyfodol Newydd yn rhan arbenigol o Wasanaeth Carchardai a Phrawf EF sy’n denu ac yn cefnogi cyflogwyr i weithio gyda charchardai yng Nghymru a Lloegr ac yn cynorthwyo carchardai i greu’r systemau a’r seilwaith a fydd yn arwain at fwy o bobl sy’n gadael carchar yn sicrhau cyflogaeth.

I gael gwybod sut y gall y Rhwydwaith Dyfodol Newydd helpu eich busnes i ddod o hyd i dalent, arbed arian a gwneud gwahaniaeth, cofrestrwch eich diddordeb yma: New Futures Network

Mae bod yn fusnes cyfrifol yn golygu bod o fudd i’r bobl a’r lleoedd o’ch cwmpas yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar eich busnes. Mae’n ymwneud â’r ffordd yr ydych yn edrych ar ôl eich staff yn eich gweithle, eich perthynas gyda’ch cyflenwyr yn y farchnad, eich rhan ym mywyd y gymuned a’ch effaith ar yr amgylchedd. Yma fe gewch wybodaeth ar sut i ychwanegu gwerth ym mhob un o’r meysydd allweddol hyn: Busnes Cyfrifol | Drupal (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.