BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rise and Shine – Digwyddiad Rhwydweithio dros Frecwast i Fusnesau

Nod rhaglenni sgiliau a thalent Venture yw paru’r bobl ‘gywir’ â’r rolau ‘cywir’ a’r cyflogwyr ‘cywir’, ledled de-ddwyrain Cymru, ac maent yn gwahodd busnesau i Rise and Shine – Digwyddiad Rhwydweithio dros Frecwast i Fusnesau.

Dysgwch am eu rhaglen recriwtio a datblygu unigryw a gweld sut y gallant eich helpu i recriwtio'r dalent ddiweddaraf. 

Cynhelir y digwyddiad ddydd Mercher, 7 Mehefin 2023, rhwng 8:30am a 10:30am yn adeilad Sbarc|Spark Prifysgol Caerdydd. 

Bydd siaradwyr yn rhannu eu mewnwelediadau gwerthfawr a sut y gall eu sefydliadau eich helpu i ddod o hyd i'r dalent gywir i'ch busnes.

I gael mwy o wybodaeth ac i drefnu lle yn y digwyddiad rhad ac am ddim hwn, cliciwch ar y ddolen ganlynol Rise and Shine - Business Breakfast Networking Event Tickets, Wed 7 Jun 2023 at 08:30 | Eventbrite
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.