Os ydych chi'n un o gwmnïau technoleg mwyaf addawol y DU, dyma'r gystadleuaeth i chi.
Rising Stars yw cystadleuaeth fwyaf cyffrous y DU ar gyfer cwmnïau sydd yng nghamau cyntaf datblygu, sydd wedi'i chynllunio i arddangos a chefnogi'r gorau sydd gan y wlad i'w gynnig ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol.
Mae cystadleuwyr yn elwa ar godi proffil sylweddol drwy gydol y gystadleuaeth, ynghyd â'r cyfle i roi eu busnes o flaen buddsoddwyr, dylanwadwyr a chorfforaethau blaenllaw.
I gael mwy o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i Rising Stars - UK pitch competition for early-stage tech startups - Tech Nation