BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rownd 3 y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol

Bydd pobl ledled Cymru yn cael cyfle i ddod yn berchnogion tafarndai, theatrau, swyddfeydd post, meysydd chwaraeon a siopau cornel lleol sydd mewn perygl yn dilyn lansio Rownd 3 Cronfa Perchnogaeth Gymunedol Llywodraeth y DU.

Bydd Ffenestr 1 Rownd 3 yn agor ar 31 Mai 2023 a bydd yn cau am 11:59am ar 12 Gorffennaf 2023 a gallwch gyflwyno datganiad o ddiddordeb (EOI) nawr. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Community Ownership Fund Round 3: how to express your interest in applying - GOV.UK (www.gov.uk)

I gael mwy o wybodaeth am y gronfa, cliciwch ar y ddolen ganlynol New levelling up and community investments - GOV.UK (www.gov.uk)

Mae cymorth datblygu bellach ar gael i ymgeiswyr drwy wefan Gronfa Perchnogaeth Gymunedol - MyCommunity, sef y partneriaid cyflwyno swyddogol ar gyfer rhaglen gymorth y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol. 

 

 

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.