BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

"Rydyn ni wedi ymrwymo i roi cymorth tosturiol i bawb sydd wedi'u heffeithio gan hunanladdiad pan fyddan nhw ei angen," meddai'r Gweinidog

family out walking

Mae'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Sarah Murphy, wedi ymrwymo i sicrhau bod gwasanaethau cymorth tosturiol ar gael i bawb sydd wedi'u heffeithio gan hunanladdiad a phrofedigaeth pan fydd eu hangen arnynt.

I nodi Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd ar 10 Medi, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio gwasanaeth cynghori cenedlaethol i geisio helpu pawb sydd wedi'u heffeithio gan hunanladdiad, a chanllawiau newydd ar gyfer asiantaethau a sefydliadau.

Mae'r gwasanaeth a'r canllawiau wedi'u dylanwadu gan anghenion a phrofiadau pobl sydd mewn profedigaeth yn sgil hunanladdiad yng Nghymru.

Daw'r lansiad yn dilyn data diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy'n dangos cynnydd yn nifer y marwolaethau yn sgil hunanladdiad yng Nghymru yn ystod 2023.

Bydd y Gwasanaeth Cynghori a Chyswllt Cenedlaethol arbenigol newydd yn ymateb i bawb sydd wedi dod i gysylltiad â hunanladdiad, wedi'u heffeithio gan hunanladdiad neu mewn profedigaeth wedi hunanladdiad a marwolaethau sydyn heb esboniad a allai fod yn hunanladdiad.

Bydd yn sicrhau y gall unrhyw un yng Nghymru sydd wedi'u heffeithio gael cymorth sensitif a thosturiol ar unwaith, gan gynnwys cyswllt rheolaidd gan swyddog cyswllt penodedig cyhyd ag y bo angen, yn ogystal â chymorth i gael gafael ar wasanaethau ehangach.

Mae'r gwasanaeth cymorth cyfrinachol rhad ac am ddim ar gael i unigolion a theuluoedd dros y ffôn, wyneb yn wyneb neu drwy alwad fideo.

Mae Sefydliad Jac Lewis, elusen Gymreig sydd wedi bod yn darparu gwasanaeth yn lleol, wedi'i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i letya'r gwasanaeth cenedlaethol.

Mae'r canllawiau newydd wedi'u hanelu at ystod o asiantaethau a sefydliadau "cyswllt" sy'n gyson yn rhan o daith profedigaeth pobl yn dilyn marwolaeth sydyn neu farwolaeth heb esboniad, gan gynnwys hunanladdiad posibl.

Mae'r rhain yn cynnwys ymatebwyr cyntaf, corffdai a swyddfeydd crwneriaid, yn ogystal ag ymarferwyr cyffredinol a thimau gofal sylfaenol, cyflogwyr a gweithleoedd.

Lluniwyd y canllawiau hyn drwy ymwneud ag unigolion ac asiantaethau sy'n gweithio yn y sector.

Cafodd y canllawiau eu dylunio i sicrhau ymateb mwy tosturiol, gan gynnig cymorth ymarferol ac emosiynol yn ystod y gwahanol gyfnodau wedi profedigaeth.

Gwnaeth y Gweinidog Iechyd Meddwl a'r Blynyddoedd Cynnar, Sarah Murphy, ymweld â gwasanaeth Sefydliad Jac Lewis yn Abertawe i weld sut y maent yn helpu pobl.

I ddarllen datganiad Llywodraeth Cymru yn ei gyfanrwydd, cliciwch ar y ddolen ganlynol: "Rydyn ni wedi ymrwymo i roi cymorth tosturiol i bawb sydd wedi'u heffeithio gan hunanladdiad pan fyddan nhw ei angen," meddai'r Gweinidog | LLYW.CYMRU

P'un a ydych chi'n hunangyflogedig neu'n berchennog busnes, dylen ni gymryd camau i ofalu am ein hiechyd meddwl ni a’n gweithwyr: Lles ac Iechyd Meddwl | Busnes Cymru (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.