BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Adolygiad - Cerbydau Trydan a Hybrid

Charging the batteries of the electric motor.

Bydd Institute of the Motor Industry (IMI) yn dechrau ar adolygiad o’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) a ganlyn: 

  • Cerbydau Trydan a Hybrid 

Er mwyn sicrhau bod canlyniadau’r adolygiad yn unol ag anghenion y diwydiant, ar draws Lloegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon gwahoddir chi i gymryd rhan yn yr adolygiad. Mae’r SGC (NOS) yn parhau i fod yn adnodd gwerthfawr ar gyfer hyfforddiant galwedigaethol, cymwysterau a phrentisiaethau. Bydd yr adolygiad yn cael ei gwblhau erbyn 31 Mawrth 2024.

Y mae’r canlynol yn dangos sut y gellwch ymgysylltu â’r prosiect:

1. Grŵp Llywio’r Prosiect - Bydd y grŵp yn goruchwylio cynnydd gydol y prosiect hyd at ei gwblhau gan sicrhau bod y SGC yn unol ag arferion gweithio’r diwydiant ac yn addas i’r pwrpas. Yn y cyfarfod cyntaf hwn byddwn yn ystyried:

  • A yw’r Safonau cyfredol yn cwmpasu holl weithgareddau’r diwydiant?
  • A ydyn nhw’n adlewyrchu’r arferion gwaith presennol?
  • Pa newidiadau sydd eu hangen?

2. Gweithdai a/neu cyfweliadau (wyneb i wyneb, teleffon neu Skype) ar y SGC sy’n berthnasol i chi.

3. Ymgynghoriadau ar-lein neu webinarau. Darparu diweddariadau am y prif ddatblygiadau yn yr adolygiad.

Sut i ymgysylltu

Rydym yn eich annog i fynychu digwyddiad Cymru a chymryd y cyfle i ddylanwadu ar ddatblygiad NOS. Byddai hefyd yn ddefnyddiol pe byddech yn nodi a ydych yn dymuno cyfrannu yn Gymraeg neu yn Saesneg yn y cyfarfod, fel y gellir gwneud paratoadau priodol. 

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol Current NOS Projects | Institute of The Motor Industry (theimi.org.uk)

Os dymunwch gymryd rhan yn yr adolygiad o’r SGC cysylltwch yn awr â Caroline Harris carolineh@theimi.org.uk  

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.