BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol cyntaf y DU ar gyfer cynhyrchu, storio a chludo hydrogen

Gosod y safonau galwedigaethol cenedlaethol cyntaf ar gyfer hydrogen i bennu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer swyddi gwyrdd. 

Yn dilyn cais llwyddiannus am gontract, bydd Cogent Skills yn hwyluso’r gwaith o ddatblygu Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol cyntaf y DU ar gyfer cynhyrchu, storio a chludo hydrogen. 

Mae cynlluniau’r Llywodraeth ar gyfer sector hydrogen ffyniannus yn debygol o ddatgloi buddsoddiad o £4 biliwn erbyn 20301  yn ogystal â chefnogi miloedd o swyddi gwyrdd o ansawdd uchel.  Mae cyhoeddi safonau technegol newydd i’w datblygu ar y cyd â chyflogwyr yn y diwydiant yn gam hollbwysig tuag at sefydlu gweithlu cymwys a medrus iawn, ac mae'n sail i uchelgais y DU o fod yn arweinydd byd-eang ym maes technolegau gwyrdd. 

Gyda dros 23,0002 o Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar wahân eisoes wedi’u datblygu, bydd y safonau galwedigaethol newydd yn nodi’r safonau perfformiad y mae'n rhaid i unigolion eu cyflawni, ynghyd â’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i weithio’n ddiogel ac yn effeithiol yn y diwydiant cynhyrchu, storio a chludo hydrogen.  Mae'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol yn cael eu cydnabod yn eang ar draws y pedair gwlad ac maent yn rhan bwysig o’r dirwedd sgiliau. Maent yn cael eu cydnabod gan gyflogwyr, rheoleiddwyr a chyrff dyfarnu, a gallant gael eu trosglwyddo’n uniongyrchol i gymwysterau neu raglenni hyfforddi, i ddylanwadu ar ddisgrifiadau swydd, neu i'w defnyddio i fesur cymhwysedd yn y gweithle.

Disgwylir y bydd y gwaith wedi’i gwblhau erbyn mis Mawrth 2023 ac mae Cogent Skills ar hyn o bryd yn recriwtio cyflogwyr a rhanddeiliaid ledled y sector sy'n awyddus i chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o ddatblygu’r safonau newydd arloesol hyn.

Bydd y sesiynau cyntaf i gyflogwyr ar gyfer y sector hydrogen yn cael eu cynnal ar-lein ym mis Awst. I gael rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan a chyfrannu at ddatblygu sgiliau'r diwydiant yn y tymor hir, cysylltwch ag 
Ian.Lockhart@cogentskills.com

1 https://www.gov.uk/government/news/uk-government-launches-plan-for-a-world-leading-hydrogen-economy
2 https://www.ukstandards.org.uk/About-nos 
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.