BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Senedd yn pleidleisio i wahardd fêps untro

single use vapes

Mae pleidlais wedi'i phasio yn y Senedd yn cyflwyno rheoliadau newydd i wahardd cyflenwi fêps untro yng Nghymru.

Bydd cyflwyno Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Fêps Untro) (Cymru) 2024 i wahardd cyflenwi fêps untro (gan gynnwys am ddim) yng Nghymru yn gam hanfodol arall wrth fynd i'r afael â'r llygredd sbwriel a phlastig sy'n difetha ein strydoedd a'n hamgylchedd.

Daw y Rheoliadau i rym ar 1 Mehefin 2025. Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU a Llywodraethau Datganoledig eraill ar y mater hwn, gyda phob gwlad yn dechrau'r gwaharddiadau ar yr un pryd. Bydd hyn yn galluogi'r gwaharddiadau i gael eu cydlynu i wella cydymffurfiaeth a helpu i ddarparu dull cyson o orfodi ledled y DU.

Ni ellir gwerthu na rhoi fêps untro am ddim ar ôl 1 Mehefin 2025.  Dylai busnesau siarad â'u cyflenwyr nawr am archebu dewisiadau amgen a dechrau addysgu staff a hysbysu cwsmeriaid.  Bydd angen i fusnesau drefnu, i'w cwsmeriaid, gael gwared â'u fêps untro yn ddiogel yn y pen draw.

I ddarllen datganiad Llywodraeth Cymru yn ei gyfanrwydd, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Senedd yn pleidleisio i wahardd fêps untro | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.