BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Sioe Twristiaeth a Theithio Prydain 2024

Bydd Sioe Twristiaeth a Theithio Prydain yn cael ei chynnal rhwng 20 Mawrth a 21 Mawrth 2024 yn yr NEC, Birmingham. Mae’n dwyn ynghyd gwestai, atyniadau a chyrchfannau sy'n awyddus i gyfarfod a gweithio gyda phobl sy'n gwneud penderfyniadau allweddol ac yn gyfrifol am gynllunio gwyliau, tripiau a theithiau.

Bydd y sioe yn denu 3,000 o ymwelwyr ac ymysg y rheini fydd yn bresennol mae:

  • cwmnïau bysiau
  • cwmnïau teithio
  • trefnwyr teithiau grŵp
  • asiantaethau teithio
  • gwasanaethau teithio
  • y cyfryngau a chymdeithasau

Pwy ddylai arddangos?

Cyflenwyr twristiaeth sy'n awyddus i weithio gyda’r byd teithio, gan gynnwys:

  • gwestai
  • atyniadau i ymwelwyr
  • cwmnïau marchnata cyrchfannau
  • arbenigwyr lleol
  • darparwyr cludiant

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan British Tourism & Travel Show 

Ewch i dudalennau Twristiaeth Busnes Cymru am gymorth wedi ei deilwra ar gyfer eich busnes twristiaeth.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.