BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Sioeau Adeiladu Cymru 2024

Engineers on a construction site

Sioeau Adeiladu Cymru yw arddangosfeydd masnach mwyaf Cymru, ac fe’u cynhelir yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 15 Mai 2024 ac yn Stadiwm Liberty, Abertawe ar 9 Hydref 2024.

Mae’r arddangosfeydd undydd hyn yn dod â chyflenwyr a masnachau at ei gilydd am ddiwrnod o rwydweithio a chysylltu. Wrth ymweld â’r sioeau, gallwch weld popeth sy’n ymwneud ag adeiladu, gan gynnwys:

  • 70 + o arddangoswyr
  • Cynnyrch a gwasanaethau newydd
  • Seminarau addysgiadol gan arbenigwyr y DU
  • Arddangosiadau byw o gynnyrch newydd
  • Bargeinion unigryw i’r sioeau
  • Datblygiadau yn y diwydiant adeiladu
  • Cysylltiadau a chyflenwyr newydd
  • Samplau a rhoddion am ddim
  • Mynediad am ddim i ymwelwyr
  • Cyfleoedd arddangos ar gyfer busnesau

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: The Welsh Construction Shows Cardiff and Swansea | TWCS


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.