BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Start Up Loans

Mae British Business Bank, trwy ei bartner, y Start Up Loans Company, yn darparu benthyciadau o hyd at £25,000 – yn ogystal â mentora a chyngor – i wneud yn siŵr bod busnesau newydd yn cael y dechrau gorau. 

Nid benthyciad busnes yw Start Up Loan, ond benthyciad personol sydd heb ei ddiogelu.

Ochr yn ochr â'r cyllid, byddwch yn cael cefnogaeth ac arweiniad am ddim i helpu ysgrifennu eich cynllun busnes, a hyd at 12 mis o fentora am ddim os yw eich cais yn llwyddiannus. 

Mae'r gyfradd llog wedi'i gosod ar 6% y flwyddyn, a gallwch ad-dalu'r benthyciad dros dymor o 1 i 5 mlynedd ac nid oes ffioedd am drefnu'r benthyciad na'i dalu yn ôl yn gynnar.

I gael mwy o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i Start Up Loans - small businesses can borrow up to £25,000

Mae grant o hyd at £2,000 ar gael i helpu unigolion gyda chostau hanfodol dechrau busnes. I gael mwy o wybodaeth, ewch i Grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes ar gyfer pobl 25 oed a Hŷn | Busnes Cymru (gov.wales) ac Grant Dechrau Busnes Pobl Ifanc | Busnes Cymru (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.