BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

The StartUp Show 2024

2024 and magnifying glass to depict business goals for 2024

Ymunwch â’r StartUp Show ar ei ben-blwydd yn 10 oed yng Ngholeg y Brenin, Llundain ddydd Sadwrn, 27 Ionawr, a sicrhau mai 2024 yw’ch blwyddyn chi!

P’un a ydych chi’n entrepreneur yn barod, neu'n dyheu am fod, mae’r StartUp Show yn anghenraid. Dyma’ch cyfle chi i ddarganfod popeth y mae angen i chi ei wybod am ddechrau busnes, a chysylltu â chynghorwyr ac arbenigwyr busnes a fydd yn mynd â’ch menter i’r lefel nesaf.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys 11 parth cysylltiedig â busnes, dros 100 o siaradwyr arbenigol, a chyfleoedd lu i rwydweithio, gyda chydberchnogion neu ddarpar berchnogion busnes o bob sector dan haul.

I gael rhagor o wybodaeth ac archebu’ch tocyn, dilynwch y ddolen ganlynol: The Startup Show | Learn from successful entrepreneurs (enterprisenation.com)

P’un a ydych chi wedi bod eisiau dechrau eich busnes eich hun erioed neu mae amgylchiadau’n mynnu eich bod yn ystyried hunangyflogaeth, mae Busnes Cymru yma i helpu. I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Dechrau a Chynllunio Busnes | Busnes Cymru (llyw.cymru) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.