BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Stocio eich cynnyrch ar y stryd fawr

Mae Enterprise Nation wedi partneru ag Adobe i gyflwyno Small Business Goes Big.

Dyma’ch cyfle i gyflwyno’ch busnes bach i brynwyr manwerthu, gyda'r posibilrwydd y byddant yn stocio eich cynnyrch. Gallech hefyd ennill cyfran o grantiau ariannol gwerth £10,000. 

Os ydych chi'n fusnes bach, micro-fusnes, gweithiwr llawrydd neu unig fasnachwr wedi'ch lleoli yn y DU a bod gennych lai nag 20 o weithwyr ac yn gweithredu yn y sectorau canlynol, yna rydych yn gymwys i wneud cais: 

  • Bwyd a diod
  • Nwyddau’r cartref
  • Ffasiwn a gemwaith
  • Prydferthwch
  • Iechyd, hamdden a lles

I wneud cais, yn syml, bydd angen i chi greu fideo o gyflwyniad dwy funud o hyd gydag ap am ddim Adobe Express. Nid oes angen unrhyw brofiad dylunio na meddalwedd arnoch.

Bydd y gystadleuaeth yn cau ar 8 Ionawr 2023. 

I gael mwy o wybodaeth ac i wneud cais, cliciwch ar y ddolen ganlynol Small Business Goes Big | Enterprise Nation
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.