BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Strategaeth y DU ar gyfer Llesiant Ariannol – Cynllun Cyflenwi ar gyfer Cymru

Yn dilyn digwyddiadau gwrando yng Nghymru a ledled y DU, lansiodd y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) Strategaeth y DU ar gyfer Llesiant Ariannol ar ddechrau 2020.

Cynlluniwyd y Strategaeth i ddod â phartneriaid ynghyd i drawsnewid lles ariannol y wlad mewn degawd. 

Ers hynny, mae MaPS wedi bod yn cydlynu cynigion ar gyfer Cynllun Cyflawni i Gymru, gyda chyfraniad gan dros 90 o randdeiliaid.

Y canlyniad yw cynllun a gyd-gynhyrchwyd gyda Llywodraeth Cymru, sy’n ymdrin â mentrau ymarferol a chyflawnadwy a all wneud gwahaniaeth i bobl sy’n gwneud y gorau o’u harian nawr ac yn y dyfodol. Mae Cynllun Cyflawni Cymru yn ystyried effaith pandemig Covid-19 a sut y gallwn gydweithio i sicrhau newid hirdymor a pharhaol i unigolion, cymunedau, busnesau a’r economi yng Nghymru.  

Mae’r cynlluniau ar eich cyfer chi os oes gennych ddiddordeb mewn ysgogi newidiadau cadarnhaol i gyllid personol pobl, darparu rhaglenni, gwasanaethau neu gefnogi cwsmeriaid gyda’u harian, ac os ydych am ddysgu mwy am sut y gall eich sefydliad chwarae ei ran i sicrhau canlyniadau llesiant ariannol cryfach ar gyfer bobl ledled Cymru.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cynllun Cyflenwi ar gyfer Cymru | The Money and Pensions Service
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.