BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Sut i gofrestru ar gyfer cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd

Mae'r cynllun Hyderus o ran Anabledd yn cefnogi cyflogwyr i wneud y gorau o'r doniau y gall pobl anabl eu cyflwyno i'ch gweithle.

Mae cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd o bob maint yn:

  • herio agweddau tuag at anabledd
  • cynyddu dealltwriaeth o anabledd
  • dileu rhwystrau i bobl anabl a'r rheiny sydd â chyflyrau iechyd hirdymor
  • sicrhau bod pobl anabl yn cael y cyfleoedd i gyflawni eu potensial a gwireddu eu dyheadau

P'un a yw gweithiwr wedi dod yn anabl yn ystod ei fywyd gwaith, neu os ydych chi'n chwilio am recriwtiaid newydd, gall bod yn Hyderus o ran Anabledd helpu eich pobl i gyflawni eu potensial a chyfrannu'n llawn at lwyddiant eich tîm.

Trwy fod yn Hyderus o ran Anabledd, byddwch hefyd yn cael eich ystyried fel cyflogwr sy’n arwain y ffordd yn eich sector busnes a thu hwnt, gan helpu i newid agweddau, ymddygiadau a diwylliannau yn gadarnhaol. 

I gael mwy o wybodaeth, ewch i How to sign up to the Disability Confident employer scheme - GOV.UK (www.gov.uk)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.