BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Sŵn yn y gwaith – gwnewch yn siŵr eich bod yn amddiffyn clyw eich gweithwyr

Construction worker wearing protective hard hat and ear defenders

Mae ymchwil i golled clyw wedi’i hachosi gan sŵn yn dangos y gallai tuag un o bob pump o weithwyr fod yn agored i lefelau sŵn uchel wrth wneud eu gwaith.

Mae sŵn yn y gwaith yn destun adroddiad gwyddonol a drafodwyd yn ddiweddar gan arbenigwyr yn y maes. Dywed Pwyllgor o Arbenigwyr Iechyd yn y Gweithle y gallai tuag 20% o’r boblogaeth waith ym Mhrydain Fawr fod yn agored i lefelau sŵn uchel (yn fwy nag 85 dBA).

Er bod achosion newydd o fyddardod galwedigaethol wedi gostwng dros y degawd diwethaf, mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn annog gweithleoedd i ystyried y prawf gweiddi i reoli sŵn yn y gwaith, ynghyd â ffyrdd i roi seibiant i glustiau gweithwyr.

Mae gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch gyngor ac arweiniad ar sŵn yn y gwaith: HSE: Noise at work – health and safety in the workplace 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.