BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO): adnoddau ar-lein am ddim i fusnesau

Gorau po gyntaf y byddwch chi’n ystyried eich eiddo deallusol. Bydd pob busnes yn berchen ar eiddo deallusol, neu’n ei ddefnyddio. Gall eich eiddo deallusol gynnwys eich gwefan, enw eich busnes neu ei logo. Gall asedau eiddo deallusol hefyd gynnwys technoleg arloesol, gwybodaeth, dyluniadau a ryseitiau cyfrinachol.

Mae adnoddau IP for Business y Swyddfa Eiddo Deallusol yn dangos i fusnesau a chynghorwyr busnes sut i reoli ac elwa o eiddo deallusol. Maen nhw’n eich helpu i:

  • ddeall sut mae eiddo deallusol yn gweithio
  • darganfod beth allwch chi ei ddiogelu gan ddefnyddio patentau, hawlfraint, nodau masnach a dyluniadau
  • deall sut i reoli a defnyddio eiddo deallusol
  • ystyried eich eiddo deallusol fel rhan o’ch cynllunio busnes
  • defnyddio eich eiddo deallusol i warchod eich buddsoddiadau a’ch cynhyrchion

Bydd y Gwiriad Iechyd Eiddo Deallusol yn eich helpu i nodi a deall yr asedau eiddo deallusol sydd ym mherchnogaeth eich busnes. 

Gall busnesau a chynghorwyr busnes ddysgu mwy am hawliau eiddo deallusol gyda’r offeryn e-ddysgu IP Equip. Mae pedwar modiwl syml yn cwmpasu hanfodion hawlfraint, dyluniadau, nodau masnach a phatentau.

A yw eich BBaCh yn gweithio gyda busnesau a phobl eraill? 

Defnyddiwch dempled cytundeb peidio â datgelu yr IPO. Mae’r pecyn cymorth B2B yn rhoi cyngor ac arweiniad i’ch helpu i gydweithio â busnesau eraill. 

Gall eiddo deallusol chwarae rhan bwysig mewn cyllid ecwiti. Bydd buddsoddwyr eisiau deall sut mae busnes wedi diogelu ei eiddo deallusol. Bydd IP for Investment yn eich helpu i nodi ac asesu eich asedau eiddo deallusol yng nghyd-destun eich strategaeth fusnes.

Os ydych eisiau masnachu â gwledydd eraill, gall rhwydwaith attachés yr IPO eich cefnogi. 

A yw eich busnes yn ymwneud â chydweithio ar ymchwil rhwng prifysgol a busnesau?

Mae pecyn cymorth Lambert yn cynnwys cyfres o gytundebau enghreifftiol a chyfarwyddyd defnyddiol.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.