BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Symud nwyddau i'r UE – canllawiau newydd

Y diweddaraf am ganllawiau Cyfleusterau Ffiniau Mewndirol (IBF): Yn dilyn adborth gan ddiwydiant, mae Cyllid a Thollau EM wedi adolygu'n drylwyr yr holl dudalennau canllaw sy'n ymwneud â Chyfleusterau Ffiniau Mewndirol, gan gynnwys: ei gwneud hi'n glir pa ddogfennaeth sydd ei hangen ar safleoedd; pa safleoedd sydd ar gael ledled y wlad; ynghyd ag anogaeth i ddefnyddio safleoedd ar wahân i Waterbrook. Yn ogystal, mae Cyllid a Thollau EM wedi cynnwys gwybodaeth am ganllawiau penodol i safle ar y swyddogaethau sydd ar gael ym mhob safle. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma

Cyfyngiadau newydd ar fwyd a diod y gallwch chi eu cario yn eich bagiau personol i'r UE: Dylai gyrwyr sy'n teithio i'r UE fod yn ymwybodol o gyfyngiadau ychwanegol ar fewnforion personol. Os ydych chi'n cario eitemau gwaharddedig yn eich bagiau, yn eich cerbyd neu ar eich person, mae angen i chi eu defnyddio, eu bwyta, eu hyfed neu eu gwaredu ar y ffin neu cyn hynny. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma

Am ragor o wybodaeth am sut mae paratoi eich busnes ar gyfer y rheolau newydd rhwng y DU a’r UE, ewch i Borth Cyfnod Pontio'r UE Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.