BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Taliad Hunanasesu i Gyfrif wedi’i ohirio ers mis Gorffennaf 2020

Mae CThEM wedi nodi y bydd rhai cwsmeriaid Hunanasesu, a ddewisodd ohirio talu eu Taliad i gyfrif ym mis Gorffennaf 2020 yn sgil COVID-19, yn derbyn datganiad Hunanasesu yn dangos bod taliad yn ddyledus gyda llog.

Mae CThEM wedi cadarnhau na fyddant yn codi unrhyw log taliadau hwyr na dirwyon ar y Taliad i Gyfrif a ohiriwyd ym mis Gorffennaf 2020, cyn belled â’i fod yn cael ei dalu yn llawn erbyn 31 Ionawr 2021.

Mae cymorth ar gael yn GOV.UK i unrhyw gwsmeriaid a allai gael anawsterau yn gwneud eu taliad.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.