Mae Tourism for All yn cynnig cwrs byr newydd am ddim, ‘So what makes you think you are not accessible?’, sy’n dangos bod y camau cyntaf i wella hygyrchedd yn gallu bod yn haws nag yr oeddech chi wedi’i feddwl.
Os ydych chi’n awyddus i dyfu’ch busnes neu ei gadw ar ei lefel bresennol, dylech feddwl am y croeso a’r gwasanaeth y gallwch eu darparu i gwsmeriaid ag anghenion o ran mynediad.
Gall gwneud rhai addasiadau eich helpu i ddiwallu anghenion mynediad eich cwsmeriaid a pharhau i ddarparu profiad gwych iddyn nhw!
Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru am y cwrs: So what makes you think you are not accessible? (tourismforall.org.uk)