BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Troi Treth yn Ddigidol o 1 Ebrill 2022

Bydd Troi Treth yn Ddigidol (MTD) yn orfodol i fusnesau sydd wedi'u cofrestru ar gyfer TAW o 1 Ebrill 2022. 

Mae MTD yn helpu trethdalwyr i gael eu ffurflenni treth yn iawn drwy leihau camgymeriadau cyffredin, yn ogystal ag arbed amser wrth reoli eu materion treth, ac mae'n rhan allweddol o'r broses gyffredinol o ddigidoleiddio treth y DU.

Dylai busnesau sydd wedi'u cofrestru ar gyfer TAW nad ydynt eto wedi cofrestru ar gyfer MTD ar gyfer TAW wneud hynny nawr. Rhaid i bob busnes sydd wedi'i gofrestru ar gyfer TAW ddefnyddio MTD ar gyfer TAW ar gyfer ei ffurflen TAW gyntaf, gan ddechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2022. Dylai busnesau ddefnyddio'r amser sy'n weddill i ddewis y feddalwedd sy'n iawn iddynt, boed hynny'n un o'r opsiynau syml am ddim sydd ar gael, neu gynnyrch mwy datblygedig i'r rhai sydd â materion mwy cymhleth.

Mae amrywiaeth o gynhyrchion meddalwedd cydnaws ar gael ar gyfer MTD ar gyfer TAW, sy'n caniatáu i fusnesau ddewis pa offer y maent yn eu defnyddio i redeg eu busnes a'u materion treth. Mae rhestr o feddalwedd sy'n cydweddu â'r cynllun MTD ar gyfer TAW, gan gynnwys opsiynau am ddim a chost isel, i'w gweld ar GOV.UK.

Mae CThEM yn deall y bydd rhai busnesau yn ei chael hi'n haws cydymffurfio ag MTD nag eraill. I'r rhai sydd angen mwy o help a chymorth i gofrestru ar gyfer MTD, mae CThEM yn cynnal cyfres o weminarau.

Gall rhai busnesau sydd wedi'u cofrestru ar gyfer TAW fod yn gymwys i gael eithriad o’r cynllun MTD, os nad yw'n rhesymol neu'n ymarferol iddynt ddefnyddio offer digidol ar gyfer eu treth. Os yw busnes wedi cael eithriad rhag gorfod ffeilio TAW ar-lein o'r blaen, bydd hyn yn parhau ar gyfer gofynion MTD ar gyfer TAW.

Ewch i GOV.UK i gael rhagor o wybodaeth ynghylch a allech gael eithriad.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.