BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Trwyddedu gorfodol ar gyfer triniaethau arbennig yng Nghymru

Mae’r Prif Swyddog Meddygol, Frank Atherton, wedi cyhoeddi mai Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno cynllun trwyddedu gorfodol cenedlaethol ar gyfer artistiaid tatŵio a’r rheini sy’n gweithio mewn busnesau tyllu’r corff, lliwio’r croen yn lled-barhaol, aciwbigo, ac electrolysis.

Nod y cynllun yw lleihau heintiau a chael gwared ar arferion gweithio gwael, drwy greu cofrestr gyhoeddus ganolog i ymarferwyr trwyddedig a safleoedd busnes sydd wedi eu cymeradwyo. Dyma gam olaf y newidiadau a gyflwynwyd o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 i wella’r safonau ar gyfer atal a rheoli heintiau yn y diwydiant.

Amcangyfrifir bod 3,516 o ymarferwyr yng Nghymru y bydd angen iddynt gael trwydded, ynghyd â 1,868 o safleoedd y bydd angen iddynt gael eu cymeradwyo o dan y cynllun trwyddedu gorfodol newydd. Cyfradd yr ymarferwyr hynny sy’n llwyddo wrth astudio’r wirfoddol i ennill dyfarniad lefel 2 mewn Atal a Rheoli Heintiau yw 95%.

Mae ymgynghoriad 12 wythnos, Trwyddedu gorfodol ar gyfer triniaethau arbennig yng Nghymru | LLYW.CYMRU wedi cael ei lansio i geisio sylwadau’r holl randdeiliaid, gan gynnwys ymarferwyr, awdurdodau lleol, a’r cyhoedd.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno cynllun trwyddedu gorfodol cenedlaethol ar gyfer triniaethau arbennig megis tatŵio | LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.