BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Twristiaeth Gynaliadwy Cymru

Gan weithio mewn partneriaeth, mae Busnes Cymru a Croeso Cymru bellach wedi lansio Twristiaeth Gynaliadwy Cymru.

Mae'r cynllun cymorth busnes newydd yn rhoi cyngor a chymorth ar sut i arbed arian, hyrwyddo eich busnes, gan ddefnyddio arferion cynaliadwyedd, a gwireddu eich uchelgeisiau gwyrdd.

Os nad ydych yn siŵr ble i ddechrau arni o ran cynaliadwyedd neu efallai eich bod wedi dechrau gwneud newidiadau ond eisiau mynd ag ef i'r lefel nesaf, gallwch lawrlwytho ein pecynnau adnoddau byr, defnyddiol, sy'n cynnwys awgrymiadau da a chyngor ar ariannu. 

Mae'r manylion llawn ar gael ar wefan Twristiaeth Gynaliadwy Cymru; lle gallwch hefyd gofrestru ar gyfer Addewid Twf Gwyrdd Twristiaeth a lawrlwytho Llawlyfr Marchnata Twristiaeth Gynaliadwy Cymru.

P'un a ydych chi'n meddwl am ddechrau busnes twristiaeth newydd, wedi cymryd y camau cyntaf yn barod neu eisiau tyfu eich busnes presennol, rydych chi yn y lle iawn ar gyfer cymorth busnes teilwredig ar gyfer busnesau twristiaeth. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael mwy o wybodaeth Twristiaeth | Drupal (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.