BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Twrnament Secure Code y 4 Cenedl

Mae’n amser Twrnameintiau Secure Code Warrior y 4 Cenedl! 

Mae'r twrnameintiau'n cynnig cyfle i gyfranogwyr gynrychioli eu rhanbarth: Yr Alban, Gogledd Iwerddon, Cymru a Lloegr, gan ganiatáu i chi gystadlu yn erbyn y cyfranogwyr eraill mewn cyfres o heriau cod bregus sy'n gofyn i chi amlygu problem, lleoli cod ansicr neu wendid, a/neu drwsio bregusrwydd. 

Bydd y deg uchaf sy’n cyrraedd y rownd derfynol ym mhob rhanbarth yn cystadlu yng Ngemau Cenedlaethol UK Secure by Design.
Dyma'r dyddiadau ar gyfer y rowndiau bwrw allan yn 2022: 

  • 5 Hydref - Lloegr
  • 12 Hydref - Yr Alban
  • 19 Hydref - Cymru
  • 26 Hydref - Gogledd Iwerddon

Y dyddiad ar gyfer y rownd derfynol yw 29 Tachwedd 2022.

Nid oes angen gwybodaeth rhaglennu helaeth arnoch gan y bydd hyn yn ffordd wych o ddysgu sylfeini a chanolraddau cod trosoli sydd nid yn unig yn weithredol ond  yn ddiogel hefyd.

Y dyddiad cau i wneud cais yw 29 Medi 2022.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i SCW Tournament (qa.com)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.