Oes gennych chi ddiddordeb mewn hyrwyddo eich busnes i'r Diwydiant Teithio rhyngwladol gan gynnwys gweithredwyr teithiau ac asiantaethau teithio?
Ymunwch a Chroeso Cymru yn World Travel Market (WTM), y prif ddigwyddiad byd-eang ar gyfer y diwydiant teithio, a gynhelir rhwng dydd Mawrth 5 i ddydd Iau 7 Tachwedd 2024 yn ExCeL Llundain.
Mae arddangos yn WTM yn cynnig cyfle unigryw i gyfarfod, rhwydweithio, trafod a gwneud busnes gyda mwy na 50,000 o weithwyr proffesiynol ym maes teithio rhyngwladol, o fwy na 38 sector o'r diwydiant teithio. Rydym wedi sicrhau lle i bartneriaid Cymru ar stondin UKinbound, sydd mewn lleoliad ardderchog yn rhan flaen Neuadd y DU ac Iwerddon.
I gymryd rhan mae'n rhaid bod gennych ddiddordeb a’ch bod yn gallu contractio a gwerthu drwy'r Diwydiant Teithio, a chynnig cyfraddau comisiwn / net. Rhaid i unrhyw ddarparwyr llety fod wedi'u graddio gan Croeso Cymru neu AA. Mae angen i ddarparwyr gweithgareddau fynd drwy Gynllun Achredu Croeso Cymru lle bo angen.
Pod Partner: £4,300 + TAW, os rhoddir cymhorthdal i dalu 50%, yn amodol ar reoliad MFA (SAFA / cymorth de minimis yn flaenorol). Cost y pod llawn yw £8,600 + TAW.
I sicrhau eich pod, cofrestrwch erbyn 16 Awst 2024. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael, ac mae Croeso Cymru yn cadw’r hawl i gynnig lle ar sail y cyntaf i'r felin.
Am fanylion llawn a sut i gadw eich lle, cysylltwch â traveltradewales@llyw.cymru