BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Addysg Oedolion Cymru 2023

Missing media item.

 

Wythnos Addysg Oedolion yw’r dathliad mwyaf o ddysgu gydol oes yng Nghymru.

Bydd wythnos yr ymgyrch yn cael ei chynnal rhwng 18 i 24 Medi 2023 gyda gweithgarwch yn cael ei gynnal drwy gydol y mis a’i nod yw hyrwyddo gweledigaeth Llywodraeth Cymru i sefydlu Cymru fel “Cenedl Ail Gyfle” ar gyfer dysgu gydol oes.

Nod yr ymgyrch yw cysylltu pobl gydag ystod eang o gyfleoedd dysgu, arddangos manteision addysg oedolion a dathlu llwyddiannau pobl, prosiectau a sefydliadau yng Nghymru sy’n hyrwyddo a chymryd rhan mewn dysgu a sgiliau.

Bydd yr ymgyrch yn ysbrydoli ac yn ennyn diddordeb oedolion i gymryd cam yn ôl i ddysgu i wella eu hyder a’u llesiant, newid gyrfaoedd, sicrhau cynnydd mewn gwaith, darganfod angerdd newydd a chysylltu gyda phobl eraill neu geisio cyngor ac arweiniad ar y llwybrau presennol sydd ar gael iddynt. 

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Wythnos Addysg Oedolion - Learning and Work Institute (sefydliaddysguagwaith.cymru)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.