BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Cyllid Busnes 2023

Young female mechanic with laptop.

Rhwng 6 a 10 Tachwedd, bydd Banc Busnes Prydain, ynghyd â sawl partner o bob rhan o'r DU, yn cynnal Wythnos Cyllid Busnes 2023.

Gyda llu o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb cenedlaethol a rhanbarthol, gweminarau a mwy, mae'r Wythnos Cyllid Busnes yn helpu busnesau llai i ddysgu am y gwahanol opsiynau cyllid sydd ar gael iddynt i gefnogi eu hanghenion unigol.

Os gwnaethoch chi golli allan ar rifyn 2022 o Wythnos Cyllid Busnes, gallwch wylio'r recordiadau o rai o'r digwyddiadau mwyaf poblogaidd.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Business Finance Week 2023 - British Business Bank (british-business-bank.co.uk)

Ydych chi'n chwilio am gyllid ar gyfer eich busnes? Gall darganfod ble i fynd i gael cyllid a dewis y math cywir fod yn anodd. Mae ein hardal gyllid yma i helpu Canfod Cyllid | Drupal (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.