BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Elusennau Cymru 2023

Group of volunteers working with donate food, team leader checking list in clipboard

 Mae Wythnos Elusennau Cymru yn ôl ac yn cael ei chynnal eleni rhwng 13 i 17 Tachwedd 2023.

Nod yr wythnos yw cydnabod ac amlygu gwaith gwych elusennau, mudiadau gwirfoddol, grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr ar hyd a lled Cymru.

Mae elusennau nid yn unig yn achubiaeth i’r rhai mwyaf agored i niwed, ond maen nhw hefyd yno i bobl drwy’r cyfnodau da a drwg, yn cymryd camau bach yr olwg sy’n arwain at wahaniaeth mawr.

Dewch i ni wneud #MwyOWahaniaethGydanGilydd yn ystod #WythnosElusennauCymru. Ewch ati i wirfoddoli, rhoi neu ddweud diolch i’ch hoff elusen neu grŵp gwirfoddol!

Waeth a ydych chi’n gweithio neu’n gwirfoddoli gyda mudiad elusennol neu dim ond eisiau rhoi sylw i elusen sy’n agos at eich calon, mae llwyth o ffyrdd o gymryd rhan yn ystod Wythnos Elusennau Cymru.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Wythnos Elusennau Cymru
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.