BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Elusennau Cymru 2024

Person holding a red love heart made of wool

Mae Wythnos Elusennau Cymru yn ôl, rhwng 25 a 29 Tachwedd 2024.

Mae’r wythnos yn ymwneud â chydnabod gwaith elusennau, mentrau cymdeithasol, mudiadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol a gwirfoddol yng Nghymru.

Mae elusennau nid yn unig yn help llaw i’r rhai mwyaf agored i niwed, maent yno i bobl yn yr amseroedd da a’r drwg, gan gymryd camau sy’n edrych yn fach ond sy’n ychwanegu at wahaniaeth mawr.

Waeth a ydych chi’n gweithio neu’n gwirfoddoli gyda mudiad elusennol neu dim ond eisiau rhoi sylw i elusen sy’n agos at eich calon, mae llwyth o ffyrdd o gymryd rhan yn ystod Wythnos Elusennau Cymru.

Gwirfoddolwch, rowch rodd neu rhowch floedd i’ch hoff elusen neu grŵp gwirfoddol! Mae digonedd o ffyrdd hawdd o gymryd rhan yn #WythnosElusennauCymru.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Wythnos Elusennau Cymru

Gweithio gyda’ch cymuned leol

Mae mwy a mwy o bobl yn gwneud pethau i gefnogi eu cymuned leol ac maen nhw eisiau gweld fod y busnesau y maen nhw’n ymwneud â nhw yn gwneud yr un fath. Mae cael gweithwyr i wirfoddoli yn golygu eu hannog i wneud hynny a rhoi amser rhydd iddyn nhw ar gyfer eu gweithgareddau gwirfoddol: Gweithio gyda’ch cymuned leol | Busnes Cymru (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.