BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Feicio 100

Cynhelir y 100fed Wythnos Feicio flynyddol rhwng 5 a 11 Mehefin 2023, sy'n nodi canrif o ddathlu beicio bob dydd i bawb. Mae Wythnos Feicio 100 yn ymwneud â beicio i weithleoedd ac yn annog cymaint o weithleoedd â phosibl i gefnogi eu staff i feicio yn ystod yr wythnos.

Gall gynnwys unrhyw beth o drefnu digwyddiad beicio i annog staff i ddewis beic yn lle car.

Eleni, mae wythnos ymwybyddiaeth feicio fwyaf y DU yn dathlu grym teithio llesol i fusnesau ac i bob un ohonom.

Mae Cycling UK yn cynnig yswiriant digwyddiadau a deunyddiau hyrwyddo am ddim ar gyfer digwyddiadau beicio yn y gweithle ac yn gosod cyfres o heriau fel rhan o ddathliadau Wythnos Feicio 100, gan dynnu sylw at y manteision y gall mwy o feicio eu cynnig i'n hiechyd, ein cyllid, ein cymunedau a'r byd naturiol. 

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Bike Week 100 | Cycling UK


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.