BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Ffasiwn Cynaliadwy 2023

Mae Wythnos Ffasiwn Cynaliadwy yn wythnos o weithgarwch cymunedol, gan gasglu pobl ynghyd i ysbrydoli, gwella sgiliau a grymuso’r gymuned i wneud dewisiadau ffasiwn cynaliadwy ac fe’i cynhelir rhwng 25 Medi ac 8 Hydref 2023. 

Am y tro cyntaf, mae Wythnos Ffasiwn Cynaliadwy yn partneru ag unigolion, sefydliadau, brandiau a darparwyr addysg i greu Hybiau ledled y Deyrnas Unedig. Bydd y rhain yn fannau trochi, hygyrch lle y gallwch gael eich ysbrydoli – gan ddysgu sgiliau a rhannu gwybodaeth er mwyn newid ein perthynas â ffasiwn gyda’n gilydd.

Am wybodaeth bellach, dewiswch y ddolen ganlynol Sustainable Fashion Week - SFW 2023  


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.